Siop Lyfrau Trefaldwyn - The Bookshop Montgomery
Cymraeg: Lleolir ein siop lyfrau, a agorwyd ddiwedd 2018, mewn adeilad ffrâm bren, sydd yn dyddio'n ôl i'r 16eg ganrif, yng nghanol tref fach Trefaldwyn yng nghanolbarth Cymru. Bu'r adeilad yn sefyll yn wag am nifer o flynyddoedd cyn i ni ei brynu a dechrau gwaith atgyweirio a ddatgelodd ei gymeriad gwreiddiol yr oedd wedi'i guddio gan newidiadau helaeth yn ystod y chwe degau a'r saith degau. Rydym wrth ein bodd yn cyfarfod cwsmeriaid newydd felly mae croeso mawr i chi dreulio (peth) amser fan hyn yn pori trwy ein casgliad o lyfrau ffuglen a ffeithiol newydd yn Saesneg a’r Gymraeg fel ei gilydd. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda, a gwnawn ein gorau glas i'w archebu ar eich cyfer. Os ydych chi'n byw o fewn pum milltir i Drefaldwyn a methu â dod i'r dref, pam na chysylltwch â ni fel y gallwn archebu eich llyfrau a’u dosbarthu nhw i’ch cartref?
English: Our bookshop, which opened at the end of 2018, is located in a late 16th century timber-framed building in the centre of the small Welsh town of Montgomery. The building had stood empty for a number of years before we bought it and began restoration work, which revealed its original character, much of which had been hidden by alterations and 'modernisation' in the 1960s and 1970s. We would love you to spend some time here, browsing our collection of new fiction and non-fiction books in both English and Welsh. If we don't have what you are looking for in stock, please let us know and we will do our best to order it for you. If you live within five miles of Montgomery and are unable to come into tow, why not give us a call so that we can order your books for you and deliver them to your home address when they arrive.